Amcan yr ap iaith Llythrennedd - Sillafu yw i ti gwblhau cymaint o eiriau ag sy’n bosibl, cyn ir amser dy guro.
Mae yna dair gêm wahanol sef Beth yw’r lluosog?, Beth yw’r gair croes? a Gwrando. O fewn pob gêm mae tair haen sydd wedi’u graddio.
Rwyt ti’n cwblhau geiriau trwy glicio ar y llythrennau ar waelod y dudalen a bydd y llythyren yn symud i’r bocs coch. Mae clicio llythyren yn y bocs yn symud hi yn ôl i waelod y dudalen.
Am bob gair cywir, rwyt ti’n ennill pwyntiau. Os bydd gair yn anghywir byddi di’n colli pwyntiau.
Ar ôl i air gael ei gwblhau yn gywir fe fydd tic yn ymddangos ger yr ateb. Bydd y cwestiwn nesaf yn ymddangos yn awtomatig.
Mae’n rhaid cael chwech allan o ddeg yn gywir i agor yr haen nesaf - dyma sut mae’n bosibl symud ymlaen i haen 2 ac yna i haen 3.
Yn ychwanegol ir bonws am gwblhau’r gair rwyt ti’n cael bonws amser os wyt yn cwblhaur deg cwestiwn o fewn yr amser.
Mae’r botwm seren oren ar ochr chwith y gêm yn rhoi help i ti ond byddi di’n colli pwyntiau wrth ei ddefnyddio.
Ar ddiwedd y gêm, os wyt ti wedi ennill digon o bwyntiau fe fydd dy sgôr i’w weld ar y sgôrfwrdd.